Cofia'n Gwlad

Ciw-restr ar gyfer Mr Jones

(Emyn) 732 (Caneuon Ffydd)
 
(Kitty) Whilo rhein, syr - Mr. Jones?
(2, 4) 1102 O – ie.
(2, 4) 1103 Siŵr o fod.
(2, 4) 1104 Nodiadau.
(2, 4) 1105 Eu hangen nhw arna'i.
(Kitty) Cyn dydd Sul?
 
(Kitty) Cyn dydd Sul?
(2, 4) 1107 Ia.
(2, 4) 1108 Ddim yn siŵr a fyddai yma ddydd Sul, a deud y gwir.
(Kitty) O.
 
(Kitty) Mynd bant?
(2, 4) 1111 Ydw.
(2, 4) 1112 'Da chi'n gwybod i le, Mrs. Jones?
(2, 4) 1113 I dir neb.
(2, 4) 1114 Dyna'n lle i, mae'n amlwg – tir neb.
(2, 4) 1115 Nes bydd yr holl... yr holl beth yma ar ben.
(Kitty) Ry' chi'n ddyn lwcus, Mr. Jones.
 
(Kitty) Lwcus.
(2, 4) 1121 Mrs. Jones, mae'n ddrwg gin' i.
(2, 4) 1122 Mae'n ddrwg gin' i.
(Kitty) 'Sdim ise.
 
(Kitty) O gwbwl.
(2, 4) 1126 Ryw air wythnos hon?
(Kitty) Y llythyr arferol.
 
(Kitty) Y llythyr arferol.
(2, 4) 1128 A, sut...
(Kitty) {Ar ei draws.}
 
(Kitty) Mae'n iach – hyd yn hyn, diolch yn fawr i chi.
(2, 4) 1131 Da iawn. Da iawn.
 
(2, 4) 1135 O'r gorau.
(2, 4) 1136 Adra.
(Kitty) Mr. Jones...
 
(Kitty) Mr. Jones...
(2, 4) 1140 Diar-diar.
(2, 4) 1141 Ble ma' mhen i, deud y gwir.
 
(2, 4) 1143 Wela'i chi ddydd Sul, 'fallai.
(Kitty) Debyg iawn.
 
(Kitty) Mr. Jones...
(2, 4) 1147 Ia?
(Kitty) Y gerdd honno - yn y'ch nodiadau...
 
(Kitty) Y gerdd honno - yn y'ch nodiadau...
(2, 4) 1149 'Da chi 'di darllen y'n nodiadau?
(Kitty) Mi oedd y cyfan ar y llawr. Dros y lle i gyd.
 
(Kitty) Mi oedd y cyfan ar y llawr. Dros y lle i gyd.
(2, 4) 1151 Ddrwg gin'i. Pa gerdd?
(Kitty) Yr un am y dail yn murmur a'r... a'r deuddeg abad a'r tawelwch a'r...
 
(2, 4) 1154 Ystrad Fflur.
(Kitty) Ystrad Fflur.
 
(Kitty) Y'ch chi... chi'n mynd i'w cyhoeddi?
(2, 4) 1158 Na.
(2, 4) 1159 Dwi ddim yn credu.
(2, 4) 1160 Na.
(Kitty) Pam?
 
(Kitty) Pam?
(2, 4) 1162 Am ei bod yn gelwydd.
(2, 4) 1163 Celwydd noeth hefyd.
(2, 4) 1164 Da bo chi.